Mae ein blog diweddaraf am Chwaraeon Cymunedol yn dod gan Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru. Mae Adran Chwaraeon yr Urdd yn cyflwyno ystod o glybiau a gweithgareddau chwaraeon yn wythnosol drwy gydol y flwyddyn er mwyn annog plant a phobl ifanc ar hyd a lled Cymru i gael hwyl, cystadlu a pherfformio drwy gyfrwng y Gymraeg, neu fel dysgwyr Cymraeg.
Prif ffocws yr adran a’i staff yw gweithio gyda chymunedau ar hyd a lled Cymru, gan weithio ar bob lefel, o lawr gwlad i bartneriaethau ag Ysgolion Cynradd ac Uwchradd a hefyd datblygu strwythurau cymunedol er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc ar hyd a lled Cymru’n cael digon o gyfle i gymryd rhan mewn pecyn amrywiol a chynhwysfawr o weithgareddau cysylltiedig â chwaraeon.
Cyfranogiad yw prif nod Adran Chwaraeon yr Urdd – cael merched a bechgyn ifanc i fod yn egnïol a’u denu at chwaraeon a rhoi diddordebau iddyn nhw y tu allan i’r ysgol. Un elfen sylfaenol o’n gwaith ni yw’r newid hwnnw o gymryd rhan ar gae chwarae’r ysgol i gymryd rhan yn y gymuned. Mae’n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn teimlo’n berchen ar eu gweithgareddau er mwyn iddyn nhw deimlo’n rhan o’r clwb cymunedol maen nhw’n ei fynychu ac, yn bwysicach na dim, er mwyn eu cael i gymryd rhan yn egnïol wythnos ar ôl wythnos.
Mae nifer fawr o’n clybiau ni’n cael eu cynnal nawr gan bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn ystod y 10-15 mlynedd diwethaf. Maen nhw’n cael profiad aruthrol yn cynnal y sesiynau hyn ac mae eu gweld yn cyflwyno’r sesiynau yn ffantastig. Maen nhw’n esiampl ragorol i’r genhedlaeth iau.
Y broses yw ein bod ni’n cyflwyno sesiynau blasu mewn ysgolion i ddechrau, i greu diddordeb yn y gweithgareddau rydyn ni’n eu cynnig yn y gymuned. Rydyn ni’n cyflwyno’r rhain mewn partneriaeth â Champau’r Ddraig, 5x60 a hefyd Adrannau Chwaraeon Awdurdodau Lleol ac yna’n darparu llwybr cynnydd i’n strwythur cymunedol.
Un esiampl dda o’r gwaith rydyn ni’n ei gyflwyno yw ein gweithgarwch ni yng Ngwent ar hyn o bryd.
Dim ond un ysgol gyfun (cyfrwng Cymraeg) sydd yng Ngwent gyfan ar hyn o bryd, ond rydyn ni’n gweithio ar draws tair sir yn rhanbarth Gwent – Casnewydd, Blaenau Gwent a hefyd Sir Fynwy – ac rydyn ni’yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n cyfeirio disgyblion o Ysgol Gyfun Gwynllyw i weithio fel gwirfoddolwyr ym mhob ardal yng Ngwent . Rydyn ni’n dileu’r ffiniau er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn cael cymryd rhan ble maen nhw’n byw.
Chwaraeon cymunedol yw’r man cychwyn – dyna darddiad chwaraeon. Os edrychwch chi’n gyffredinol ar bethau, mae gan unrhyw gamp sy’n llwyddiannus strwythur chwaraeon mawr ar lawr gwlad. Y cyfle cyntaf i bobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon yw yn y gymuned. Mae’n gyfrwng mor bwysig i gael plant i fod yn egnïol y tu allan i amgylchedd yr ysgol.
Os oes gennych chi strwythur chwaraeon cymunedol cryf, mae’n cynnig cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan o oedran ifanc. Yn bwysicach na hynny, os yw’r llwybr hwnnw wedi’i gysylltu â Chorff Rheoli Cenedlaethol, a chlybiau cymunedol eraill, yna mae gennych chi lwybrau cynnydd i fynd â phlant mor bell ag y maent yn dymuno.
Daw’r rhan fwyaf o’n llwyddiannau ni o adeiladu sylfaen gref o oedran ifanc. Yr unig ffordd i wneud hynny yw drwy ddechrau ar y lefel sylfaen; dysgu sgiliau sylfaenol i blant ar gyfer chwaraeon, i roi cychwyn da iddyn nhw ar gyfer pa gamp bynnag maen nhw eisiau cymryd rhan ynddi wrth iddyn nhw ddatblygu a thyfu. Er enghraifft, byddwn ni nawr yn sefydlu ein datblygiad cymunedol yng Nghyfnod Allweddol 1, ble byddwn yn dysgu i’n plant ni i gyd y sgiliau SYLFAENOL y mae arnyn nhw eu hangen er mwyn datblygu a chymryd rhan mewn chwaraeon. Mae gan yr Urdd lwybr clir i bob camp gymunedol ac yna llwybr cystadlu o lefel leol i Gemau Cymru.
Mae’n bwysig rhoi cyfle i blant ddatblygu eu sgiliau iaith y tu allan i amgylchedd yr ysgol a’u datblygu drwy chwaraeon. Rydyn ni wedi gweld bod chwaraeon yn gyfrwng ffantastig ar gyfer hyn, nid yn unig ar gyfer datblygu’r iaith ond hefyd i ddatblygu chwaraeon cymunedol a datblygu plant ifanc a’u cadw nhw’n egnïol. Rydyn ni’n defnyddio model syml; rydyn ni’n datblygu hyfforddwyr, yn dod o hyd i bobl ifanc i weithio gyda hwy ac yna’n creu gweithgareddau hwyliog a chynaliadwy. Mae’n fodel syml sy’n gweithio’n ffantastig ac mae’r iaith yn elfen allweddol o’r llwyddiant hwn.
Mae’n rhoi cyfle i blant fwynhau gweithgareddau cymunedol lleol gan wneud yn siŵr bod yr hyn a gynigir o safon uchel, gydag arweinwyr a gwirfoddolwyr o safon uchel, a gefnogir yn dda iawn, ac sy’n cyflawni i ni. Os yw’r sylfaen yn iawn, yna mae pob math o bethau’n bosib yn fy marn i, i Gymru ac wrth ddatblygu sêr chwaraeon y dyfodol.
Ysgrifennwyd y blog hwn i gyd-fynd â lansiad strategaeth ar gyfer Chwaraeon Cymunedol yng Nghymru. Os hoffech chi ddweud eich barn, byddwch yn rhan o’r drafodaeth ar twitter – gan ddefnyddio’r hashtag #communitysport a gallwch ein crybwyll ni ar @sport_wales
No comments:
Post a Comment